× Search
Log In Sign Up

Cymru

Cefnogi'r diwydiant adeiladu yng Nghymru i gyflawni prosiectau mwy cynaliadwy, gwella eu helw net, ac ennill mwy o fusnes.

in English

Gweithio i adeiladu Cymru gynaliadwy

Crëwyd Ysgol y Gadwyn Gyflenwi yng Nghymru i roi cymorth i’r diwydiant adeiladu, a hynny trwy ddarparu adnoddau hyfforddi rhad am ddim i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a’ch gwybodaeth ym maes cynaliadwyedd.

Adnoddau Dysgu

Mae Cymru’n arwain yr ymdrech i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy, a hynny yn y sector adeiladu yn anad dim. Mae sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflwyno er mwyn gwella’r amgylchedd, creu swyddi a phrentisiaethau newydd, a sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar fuddsoddiad newydd, yn sbardun allweddol yng Nghymru.

Mae gan sector adeiladu Cymru sbardunau deddfwriaeth a pholisi sylweddol sy’n llywio ein blaenoriaethau cynaliadwyedd yn yr adeiladau a’r seilwaith yr ydym yn eu codi ac yn eu cynnal a’u cadw.

Mae’r Ysgol yma i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am gynaliadwyedd, a hynny trwy ein hyfforddiant DPP achrededig ar-lein, RHAD AM DDIM, neu mynnwch air â ni yn un o’n sesiynau yng Nghymru.

Adnoddau dethol Cymreig

Rydym wedi datblygu adnoddau penodol i'ch helpu i ddeall a mynd i'r afael â blaenoriaethau cynaliadwyedd y sector adeiladu yng Nghymru.

Business Ethics

Gwyliwch ein Partneriaid yn siarad am bwysigrwydd y Ddeddf Llesiant ar gyfer adeiladu a Chymru

Sut y dylwn fynd ati i feithrin y sgiliau i gofleidio cynaliadwyedd?

Bydd ein hasesiad cynaliadwyedd yn eich galluogi i ddeall yr hyn y mae angen i chi ei wybod ac yn darparu cynllun dysgu cyflym 10 pwynt.

Asesu 'nawr

The Well-being of Future Generations Act and the Welsh construction sector

Beth sy’n wahanol am adeiladu cynaliadwy yng Nghymru?

Rydym wedi datblygu adnoddau penodol i’ch helpu i ddeall a mynd i’r afael â blaenoriaethau cynaliadwyedd y sector adeiladu yng Nghymru. Yma, rydym yn tynnu sylw at rai o’r prif wahaniaethau o ran polisi a deddfwriaeth yn sector adeiladu Cymru.

Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn meddwl mwy am yr hirdymor, yn cydweithio'n well â phobl a chymunedau, yn ogystal â'i gilydd, yn ceisio atal problemau, ac yn gweithredu modd mwy cydgysylltiedig. Mae'r gyfraith newydd hon yn golygu, am y tro cyntaf, fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf wneud yr hyn a wnânt mewn ffordd gynaliadwy. Mae hyn yn golygu y bydd cynaliadwyedd yn cael ei gynnwys ym mhob penderfyniad a wneir gan y sector cyhoeddus, ac y bydd yn rhaid i'r sefydliadau hynny sy'n gweithio gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru helpu eu cleientiaid i fodloni'r materion cynaliadwyedd hyn.

Defnyddir Offeryn Mesur Budd i'r Gymuned Cymru i adrodd am a gwerthu'r gwerth cymdeithasol sy'n cael ei greu gan brosiectau penodol yng Nghymru. Os byddwch yn gwneud cais am waith yng Nghymru, bydd yn ofynnol i chi ystyried y modd y gallwch greu a mesur buddion ehangach i'r gymuned o ganlyniad i'r gwaith yr ydych yn ei wneud.

Mae Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg a chyda pharch, ac i wneud Cymru yn elyn i gaethwasiaeth. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 193 o ddioddefwyr caethwasiaeth posibl wedi cael eu nodi y llynedd. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynhyrchu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sydd wedi'i gynllunio er mwyn helpu i sicrhau bod gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn ffordd deg a moesegol.

Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi er mwyn helpu i sicrhau cyflogaeth foesegol a chyfreithlon ar gyfer gweithwyr mewn sectorau cyhoeddus sydd mewn cadwyni cyflenwi. Gwyliwch ein fideo i gael gwybod rhagor.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae hyn yn golygu bod Cymru yn economi werdd, carbon isel, sy'n barod i ymaddasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Fe'i cynlluniwyd yn ofalus i helpu i sicrhau lles hirdymor Cymru, a hynny fel bod cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn elwa ar economi ffyniannus, amgylchedd iach a gwydn, a chymunedau bywiog, cydlynol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar weithredu'r Cyflog Byw ledled Cymru, a'r modd y gellir ei lywio trwy'r broses gaffael. Er na all sefydliadau'r sector cyhoeddus wneud talu'r Cyflog Byw yn ofyniad gorfodol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo manteision bod yn Gyflogwr Cyflog Byw.

Oddi ar 31 Rhagfyr 2011, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gyfrifol am bennu Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae llawer o'r Rheoliadau Adeiladu sydd mewn grym yn Lloegr hefyd mewn grym yng Nghymru. Fodd bynnag, mae yna hefyd rai gwahaniaethau pwysig. Bydd y dolenni i'n llyfrgell adnoddau yn eich arwain at y dogfennau allweddol sy'n egluro'r gwahaniaethau allweddol yr ydych chi, fel cyflenwr, yn gyfrifol am eu bodloni.
“Mae'r Ysgol yn caniatáu i ni gyfleu neges gyson i'r diwydiant o ran yr hyn y mae arnom ei angen ledled ein cadwyn gyflenwi i arddangos perfformiad cynaliadwy.”
Simon Richards, Rheolwr Rhanbarthol Cynaliadwyedd a Safonau, Sir Robert McAlpine

Pynciau cynaliadwyedd â blaenoriaeth

Slavery
Caethwasiaeth Fodern
Gyda Mynegai Caethwasiaeth Fyd-eang 2016 yn amcangyfrif bod yna 40.3 miliwn o ddioddefwyr , mae hyn yn golygu bod mwy o bobl wedi’u caethiwo ’nawr nag erioed o’r blaen yn hanes y ddynoliaeth.
Darllen mwy
social value
Gwerth Cymdeithasol
I lawer o fusnesau, mae deall, monitro ac adrodd ar effeithiau cymdeithasol yn agwedd allweddol ar eu ‘trwydded i weithredu’.
Darllen mwy
Effeithlonrwydd o ran Gwastraff ac Adnoddau
Rhaid i ni 'nawr symud at economi gylchol yn hytrach nag economi linol wrth i 89.9% o’r 55 miliwn o dunelli o wastraff adeiladu a dymchwel gael ei ailgyfeirio.
Darllen mwy

Iawn. Amdani

Digwyddiadau a hyfforddiant rhad ac am ddim yng Nghymru
Ewch i unrhyw un o'n digwyddiadau neu sesiynau hyfforddiant rhad ac am ddim yng Nghymru er mwyn meithrin sgiliau a gwybodaeth ac ennill mantais gystadleuol
Yr hyn sydd ar y gweill
Chwiliwch yn ein catalog o adnoddau hyfforddiant RHAD AC AM DDIM
Yn methu dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano?
SustainabilityAsesiad Cynaliadwyedd
Meincnodi eich gwybodaeth am gynaliadwyedd mewn perthynas â'r diwydiant, bodloni gofynion cleientiaid, a sicrhau bod eich busnes yn cael ei gydnabod.
Asesu 'nawr (English)

Our Partners

The School is a collaboration between clients, contractors and suppliers who have a mutual interest in building the skills of their supply chain. They pay for the School, so it's all FREE for you.